English

Amdanom Ni

Gweler Isod

Amdanom Ni

Mae Cyngor Cymuned Glantwymyn yn gyfrifol am ardal wledig a leolir yng nghanol Dyffryn Dyfi yn cynnwys pentrefi Abercegir, Ceinws, Cemaes, Cwmlline, Darowen, Glantwymyn, Llanwrin a Thalywern.  Mae'r gymuned yn cynnwys hen blwyfi Llanwrin a Chareinion Fechan, rhan helaeth o blwyf Cemaes ac hanner gogleddol plwyf Darowen.

Mae'r Cyngor Cymuned yn cwrdd yng Nghanolfan Glantwymyn ar y Dydd Iau olaf ym mhob mis heblaw am Fis Awst a Mis Rhagfyr.

Un o gyfrifoldebau'r Cyngor yw cynnal mynwentydd Eglwysi Darowen a Llanwrin ac mae'r Cyngor yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at gynnal mynwent Eglwys Cemaes, a mynwentydd capeli yng Nghemaes, Cwmlline a Thalywern.  Mae'r Cyngor hefyd yn gyfrifol am nifer o feinciau a chysgodydd bws o fewn ardal y gymuned.

Mae'r Cyngor yn cael cyfle i roi barn ar bob cynnig cynllunio o fewn ardal y gymuned ac mae'n chwarae rhan pwysig yn adrodd ar nifer o wasanaethau a gweithgareddau y Cyngor Sir.